Living in Swansea

 

As a student at Swansea University you will benefit from our multicultural community that provides a global perspective and opportunities to gain skills that last a lifetime.

Our unique location means that you are never far from the city or the beach, so take a look around, because whoever you are and whoever you want to be, you'll find yourself right at home in Swansea.

From the Maritime Quarter and Uplands to nearby Mumbles, discover a city with plenty of charm and bags of character.  Town, beach, campus... it's quick and easy to get where you need to be, especially with the Campus to Campus bus services which run 24 hours during term time, and our popular Swansea University Cycle Hire Scheme.

Music - Swansea has a vibrant music scene which continues to grow. The city boasts a huge variety of music venues and plays host to music festivals and events throughout the year with a new 3,500 capacity arena in the heart of the city.

Culture - Swansea is a vibrant centre for art and culture. On rainy days, duck into Glynn Vivian and Mission Gallery in town or Taliesin Arts Centre and the Egypt Centre on Campus. Literature lovers should pay a visit to local boy Dylan Thomas' home too.

 

 

Byw yn Abertawe

 

Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn elwa o'n cymuned amlddiwylliannol sy'n rhoi safbwynt byd-eang a chyfleoedd i feithrin sgiliau sy'n para am oes.

 

Mae ein lleoliad unigryw yn golygu nad ydych byth yn bell o'r ddinas neu'r traeth, felly edrychwch o gwmpas, oherwydd pwy bynnag ydych chi a phwy bynnag yr hoffech fod, byddwch yn teimlo'n gartrefol yn Abertawe.

 

O'r Ardal Forwrol ac Uplands i'r Mwmbwls gerllaw, gallwch ddarganfod dinas sydd â digon o swyn a llwyth o gymeriad.  Tref, traeth, campws... Mae'n gyflym ac yn hawdd cyrraedd lle mae angen i chi fod, yn enwedig gyda'r gwasanaethau bws Campws i Gampws sy'n rhedeg 24 awr y dydd yn ystod y tymor, Cynllun Llogi Beiciau Prifysgol Abertawe poblogaidd.

 

Cerddoriaeth - Mae gan Abertawe sîn gerddoriaeth fywiog sy'n parhau i dyfu. Mae gan y ddinas amrywiaeth enfawr o leoliadau cerddoriaeth ac mae'n gartref i wyliau a digwyddiadau cerddorol drwy gydol y flwyddyn ac arena sy'n dal 3,500 o bobl yng nghanol y ddinas.

 

Diwylliant - Mae Abertawe yn ganolfan fywiog ar gyfer celf a diwylliant. Ar ddiwrnodau glawog, gallwch fynd i Oriel Gelf Glynn Vivian ac Oriel Mission yn y dref neu Ganolfan y Celfyddydau Taliesin a'r Ganolfan Eifftaidd ar y campws. Dylai'r rhai sy'n hoff o lenyddiaeth ymweld â chartref y brodor lleol Dylan Thomas hefyd.

Landlords

 

The following map highlights area’s in Swansea that are quite popular with students and have a higher density of student accommodation available. Brynmill & Uplands are quirky area’s, ideal for Singleton Students. Uplands in particular is quite vibrant with modern bars, restaurants and shops. Sandfields is great for beach lovers with most streets only being a 5 minute walk away to the beautiful Swansea Bay. The city centre and Sandfields is a great area if you have a mix of Bay & Singleton Students. St Thomas and Port Tennant are ideal for Bay Campus students. Both the Bay campus and city centre are usually only a 10 minute journey away. Lastly, the Marina and Sketty area’s are normally a little more pricey and are better for students who want a quieter life.

 

With so much choice available on Studentpad, you are sure to find your ideal home from home.

 

Landlordiaid

 

Mae'r map canlynol yn tynnu sylw at ardaloedd yn Abertawe sy'n eithaf poblogaidd ymhlith myfyrwyr ac sydd â dwysedd uwch o lety myfyrwyr ar gael. Mae Brynmill ac Uplands yn ardaloedd unigryw, sy'n ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr Singleton. Mae Uplands yn benodol yn eithaf bywiog gyda bariau, bwytai a siopau modern. Mae Sandfields yn wych ar gyfer y sawl sy'n hoff o'r traeth a gallwch gerdded o'r rhan fwyaf o'r strydoedd i Fae hardd Abertawe mewn 5 munud yn unig. Mae canol y ddinas a Sandfields yn ardal wych os oes gennych gymysgedd o fyfyrwyr o'r Bae a Singleton. Mae St Thomas a Port Tennant yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr Campws y Bae. Fel arfer, bydd yn cymryd 10 munud yn unig i deithio rhwng Campws y Bae a chanol y ddinas. Yn olaf, mae ardal y Marina a Sgeti fel arfer ychydig yn fwy drud ac yn well i fyfyrwyr sydd eisiau bywyd tawelach.